'Deiseb Heddwch 1923' (Womens Peace Centenary 1923) T Shirt by Efa Lois

'Deiseb Heddwch 1923' (Womens Peace Centenary 1923) T Shirt by Efa Lois

Pris arferol £15.00 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Crys T gyda chynllun darluniedig, cyfoes Cymraeg 'Deiseb Heddwch 1923' gan Efa Lois. Wedi'i wneuthurio o 100% cotwm, y gellir ei olchi ar 40 gradd celsiws.

Darlunydd o Geredigion yw Efa Lois. Mae ei gwaith hi'n ffocysu'n bennaf arbositifrwydd, blodau a mytholeg. Efa oedd darlunydd swyddogol Tafwyl yn 2018,2019 a 2020.Mae ei gwaith wediymddangos hefyd ar gloriau albymau miwsig, ac yn ei hamser hamdden, mae'n cynnal blog 'Prosiect Drudwen', sy'n dogfennu merched hanesyddol Cymru syddwedi cael eu hesgeuluso, acyn darlunio'r blog fel rhan o brosiect Rhithganfyddiad.

Ar 5ed Ebrill, 2023, dychwelwyd Deiseb Heddwch canmlwyddoed, wedi'i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymreig i Gymru gan gofnodi canrif o ymgyrch Cymreig dros heddwch wedi'i arwain gan fenywod Cymru. Ers 1923, gofalwyd am y Ddeiseb, ac fe'i harddangoswyd, gan Amgueddfa Genedlaethol Hanes America, yn Washington DC. Ar 5ed Ebrill, 2023, dychwelwyd y Ddeiseb Heddwch canmlwydd oed, wedi'i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymreig i Gymru, gan gofnodi canrif o'r ymgyrch Cymreig dros heddwch wedi'i arwain gan fenywod Cymru.

Ers 1923, gofalwyd am y Ddeiseb, ac fe'i harddangoswyd gan Amgueddfa Genedlaethol Hanes America, yn Washington DC. Dechreuodd ar ei siwrnai pan ymgymerwyd ag ymgyrch dros heddwch byd gan grŵp o fenywod Cymru, 5 mlynedd wedii arswyd y Rhyfel Byd Cyntaf chwalu Ewrop.

Cyrrhaeddodd y gist a'r ddeiseb (sy'n mesur 7 milltir mewn hyd), i groeso cynnes yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gany bobl oedd yn ymwneud â Phartneriaeth Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, sydd wedi gweithio'n ddiwyd i'w dychwelyd i'w chartref, gyda'r bwriad o sicrhau mynediad iddi i bobl Cymru. Dros y flwyddyn nesaf, mi fydd yn Ddeiseb yn cael ei chatalogio a'i digido, a bydd ar gael i'r cyhoedd drawsgrifio ei chynnwys drwy brosiect torfoli. Bydd yn cael ei harddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,Amgueddfa Cymru- Sain Ffagan ac Amgueddfa Wrecsam.