Bag cario 'Deiseb Heddwch 1923' (Womens Peace Centenary 1923) gan Efa Lois

Bag cario 'Deiseb Heddwch 1923' (Womens Peace Centenary 1923) gan Efa Lois

Pris arferol £10.00 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Bag cario gyda chynllun cyfoes Cymraeg 'Deiseb Heddwch 1923' gan Efa Lois. Dylir ei lanhau drwy dynnu lliain drosto yn unig.

Maint: 40cm x 38cm

Darlunydd o Geredigion yw Efa Lois. Mae ei gwaith hi'n ffocysu'n bennaf ar bositifrwydd, blodau a mytholeg. Efa oedd darlunydd swyddogol Tafwyl yn 2018,2019 a 2020.

Mae ei gwaith wedi ymddangos hefyd ar gloriau albymau miwsig, ac yn ei hamser hamdden, mae'n cynnal blog 'Prosiect Drudwen', sy'n dogfennu merched hanesyddol Cymru syddwedi cael eu hesgeuluso, ac yn darlunio'r blog fel rhan o brosiect Rhithganfyddiad.

Ar 5ed Ebrill, 2023, dychwelwyd Deiseb Heddwch canmlwydd oed, wedi'i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymreig i Gymru gan gofnodi canrif o ymgyrch Cymreig dros heddwch wedi'i arwain gan fenywod Cymru. Ers 1923, gofalwyd am y Ddeiseb, ac fe'i harddangoswyd, gan Amgueddfa Genedlaethol Hanes America, yn Washington DC. Ar 5ed Ebrill, 2023, dychwelwyd y Ddeiseb Heddwch canmlwydd oed, wedi'i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymreig i Gymru, gan gofnodi canrif o'r ymgyrch Cymreig dros heddwch wedi'i arwain gan fenywod Cymru.

Ers 1923, gofalwyd am y Ddeiseb, ac fe'i harddangoswyd gan Amgueddfa Genedlaethol Hanes America, yn Washington DC. Dechreuodd ar ei siwrnai pan ymgymerwyd ag ymgyrch dros heddwch byd gan grŵp o fenywod Cymru, 5 mlynedd wedi i arswyd y Rhyfel Byd Cyntaf chwalu Ewrop.

Cyrrhaeddodd y gist a'r ddeiseb (sy'n mesur 7 milltir mewn hyd), i groeso cynnes yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gany bobl oedd yn ymwneud â Phartneriaeth Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, sydd wedi gweithio'n ddiwyd i'w dychwelyd i'w chartref, gyda'r bwriad o sicrhau mynediadiddi i bobl Cymru. Dros y flwyddyn nesaf, mi fydd yn Ddeiseb yn cael ei chatalogio a'i digido, a bydd ar gael i'r cyhoedd drawsgrifio ei chynnwys drwy brosiect torfoli. Bydd yn cael ei harddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru- Sain Ffagan ac Amgueddfa Wrecsam.